Rwyf wedi derbyn cannoedd o e-byst a llythyrau gan etholwyr ac wedi gwrando, yn bersonol, ar gynifer o bobl leol sydd wedi dod ataf ynghylch pleidlais heddiw yn y Senedd ar farw â chymorth.
Mae safbwyntiau angerddol ar ddwy ochr y ddadl ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad am rannu gyda mi eu hemosiynau twymgalon a’u sefyllfaoedd personol a theuluol mewn ffordd mor barchus ac urddasol.
Rwyf wedi gwrando’n ofalus ar bob un ohonynt. Rwyf hefyd wedi dilyn y ddadl ehangach sydd wedi digwydd ers i’m cyd-aelod, Kim Leadbetter AS, gyflwyno’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) gyntaf, darllen cyflwyniadau di-rif gan elusennau a sefydliadau lleol a chenedlaethol yn ogystal ag archwilio’r cynnig o dan ystyriaeth fanwl iawn.
Gwn yn rhy dda fod gwylio ffrind i aelod o’r teulu yn dioddef mewn poen wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu hoes yn beth dirdynnol ac anodd. Mae’r effaith ar yr unigolion hynny a’r rhai o’u cwmpas yn anfesuradwy ac mae ond yn iawn ein bod yn gwrando ac yn gweithredu mewn ffordd dosturiol i leihau eu dioddefaint hyd eithaf ein gallu.
Ar y llaw arall, mae pryderon gwirioneddol hefyd ynghylch sut y bydd y Bil hwn yn effeithio ar bobl agored i niwed a’r rheini a allai deimlo eu bod wedi dod yn faich ar eu teuluoedd a’r GIG. Mae’n bwysig ein bod hefyd yn cael clywed barn y meddygon a’r nyrsys hynny sy’n gyfrifol am ddarparu’r gofal a’r cymorth i bobl â salwch angheuol ac a fyddai, pe bai’r Bil hwn yn mynd yn ei flaen, â rôl weithredol wrth wneud unrhyw benderfyniad terfynol. ar ddiweddu bywyd rhywun.
Mae angen rhoi ystyriaeth lawn i ymgynghoriad cywir a manwl â’r cyhoedd ac â’r proffesiynau gofal a meddygol. Byddai mesurau diogelu cadarn sy’n amddiffyn pobl agored i niwed rhag gorfodaeth a phwysau yn hanfodol. Mae angen adolygiad trylwyr o’n system gofal lliniarol, sydd eisoes dan bwysau mawr, hefyd fel y gallwn fod yn hyderus mai’r gofal a roddwn i bobl sy’n cael eu hunain yn y sefyllfa hon yw’r gorau oll y gallwn ei ddarparu.
Er fy mod yn parhau i gydymdeimlo’n fawr â’r cynnig i gyfreithloni marw â chymorth i’r rhai sy’n derfynol wael, rwyf o’r farn, yn ei fformat presennol, fod y Bil hwn yn cael ei ruthro drwodd. Mae newid yn y gyfraith o’r arwyddocâd hwn yn gofyn am ystyriaeth fwy hir a manwl ac i’w holl oblygiadau posibl fod yn destun dadansoddi a chraffu cyhoeddus a seneddol trwyadl nag y darparwyd ar ei gyfer ar hyn o bryd. Am y rhesymau hyn y byddaf, ar ôl ystyried yn ofalus iawn, yn pleidleisio yn erbyn y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) yn ddiweddarach heddiw.