Anrhydedd fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru i fynychu penwythnos pen-blwydd 80 mlynedd ers rhyddhau ‘s-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd, y mae gan yr Iseldiroedd ddiolchgarwch enfawr i’r milwyr Cymreig a’u rhyddhaodd, a braint arbennig i gwrdd â theuluoedd rhai fel David Glyndwr Jones a ymladdodd yn y rhyddhad hwnnw.
Penwythnos arbennig iawn o goffau gyda gosod torch wrth y Gofeb Ryfel Gymreig a’r fynwent, gorymdeithiau, drama sy’n ennyn myfyrdod, a chyngerdd bendigedig gyda Samuel Wyn-Morris, cantorion LARS a Chôr Nodedig.