
Allan yng Nghanol Tref Llanelli eto heddiw a 600 o bobl ychwanegol wedi ychwanegu eu henwau at y ddeiseb i gadw’r Uned Mân Anafiadau ar agor dros nos. Peidiwch ag anghofio’r cyfle i siarad yn uniongyrchol â’r Bwrdd Iechyd yn eu sesiwn galw heibio ddydd Mercher 23 Hydref 2 – 7pm yng Nghanolfan Antioch.