Home > Uncategorized > Cyfarfod Bwrdd Iechyd Hywel Dda – Uned Mân Anafiadau Llanelli

Mae penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda heddiw i gau’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip dros nos am chwe mis yn warthus.

Maen nhw wedi cael mwy na digon o amser i ddelio â phroblemau staffio yno ond wedi methu â gwneud hynny. Yn lle hynny, maen nhw nawr yn bwriadu cychwyn ar ymgynghoriad cyn penderfynu ar ei ddyfodol tymor hwy.

Rhaid i’r UMA aros ar agor fel gwasanaeth 24/7. Mae angen i Hywel Dda gyflawni hynny ar gyfer pobl Llanelli yn awr.