Home > Uncategorized > AS yn galw am ailfeddwl am gynlluniau adleoli triniaeth camddefnyddio sylweddau Llanelli

Mae cynigion a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda i adleoli Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD) o Stryd Vaughan yng nghanol tref Llanelli i hen adeilad WRW yn Noc y Gogledd wedi cael eu beirniadu gan AS Llanelli, Nia Griffith.

Mae’r cynllun, a wrthodwyd yn wreiddiol gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin ym mis Medi 2023, bellach yn destun apêl i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (BCAC), wrth i’r Bwrdd Iechyd geisio cael y penderfyniad hwnnw i gael ei wyrdroi fel y gall fwrw ymlaen â throsglwyddo gwasanaethau i’r lleoliad newydd.

Mewn llythyr a anfonwyd at BCAC, mae Aelod Seneddol y dref, y Fonesig Nia Griffith, wedi cadarnhau ei gwrthwynebiad i’r symudiad dadleuol ac wedi galw ar y corff anwleidyddol i wrthod y cais hefyd.

Dywedodd yr AS:

“Rwy’n rhannu gwrthwynebiadau llawer o bobl leol i’r cais i symud GCAD i’r lleoliad hwn yn Noc y Gogledd.

“Mae angen symud y cyfleuster GCAD allan o ganol y dref, gan ei fod yn annog grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaeth i ymgynnull yng nghanol y dref, sydd wedi bod yn frawychus ac yn peri gofid mawr i siopwyr a busnesau. Fodd bynnag, mae’r safle yn Noc y Gogledd yn gwbl anaddas. Mae yna safleoedd mwy priodol gyda mynediad haws ac mae angen ystyried ac asesu’r opsiynau amgen hyn yn iawn yn lle hynny.”

Ychwanegodd hi:

“Mae rhoi’r gwasanaeth hwn yn Noc y Gogledd yn codi pryderon am ddiogelwch ei ddefnyddwyr a’r effaith y byddai’n ei gael ar drigolion a busnesau lleol o ran y risgiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ychwanegol yn enwedig o amgylch y parc chwarae plant cyfagos, traeth, caffi, swyddfeydd a bwyty yn yr ardal honno.

Mae yna hefyd eiddo preswyl ar lan y traeth ac ychydig ar draws y ffordd osgoi ac rwy’n gwybod fod llawer o bobl sy’n byw yno yn erbyn y cynlluniau ac yn credu mai dyna’r lle anghywir i’r gwasanaeth fynd hefyd.

Rwy’n parhau’n bendant yn erbyn y cynigion hyn fel y maent ac yn annog BCAC i’w gwrthod yn yr un modd ag y gwnaeth Cynghorwyr Sir Caerfyrddin y llynedd. Mae gwir angen y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir ond mae angen dod ag ateb gwell ymlaen sy’n darparu nid yn unig i’r rhai sydd angen cymorth ond hefyd i’r dref ehangach, ei thrigolion a’i busnesau lleol.”