Home > Uncategorized > Cefnogi ymgyrchwyr Achub Ysgol Heol Goffa

Ymunais ag ymgyrchwyr Achub Heol Ysgol Goffa yn Llanelli y bore yma i helpu i gasglu llofnodion deiseb a siarad â phobl leol am dro pedol gywilyddus Cyngor Sir Caerfyrddin a redir gan Blaid Cymru ar adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer y disgyblion yno.

Mae gorymdaith “Rydym yn Caru Ysgol Heol Goffa” yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 7fed Medi a bydd yn gyfle arall i ddangos cryfder y teimlad cymunedol i’r Cyngor gan gefnogi’r ysgol a gwrthwynebu ei benderfyniad i beidio â darparu’r cyfleusterau newydd yr oedd wedi’u haddo ers tro.