Bydd gwneud Prydain yn archbwer ynni glân yn torri biliau, yn creu swyddi ac yn sicrhau diogelwch gyda thrydan di-garbon rhatach erbyn 2030.
Mae Llafur eisoes wedi codi’r gwaharddiad gwynt ar y tir yn Lloegr, wedi cymeradwyo prosiectau solar sy’n gallu pweru’r hyn sy’n cyfateb i bron i 400,000 o gartrefi ac wedi sefydlu Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol i fuddsoddi mewn swyddi ynni glân da ledled y wlad.
Rwy’n cefnogi’r camau pellach y mae Llywodraeth Lafur y DU yn eu cymryd gan gynnwys sefydlu tasglu i fwrw ymlaen â phrosiectau ynni gwynt ar y tir, mesurau i gyflawni chwyldro ym maes solar to ac ymrwymiad cadarn i ynni gwynt ar y môr.
Roedd Araith y Brenin yn ddiweddar hefyd yn cynnwys Bil i’n galluogi i sefydlu GB Energy, cwmni cynhyrchu ynni newydd dan berchnogaeth gyhoeddus a fydd yn berchen ar, yn rheoli ac yn gweithredu prosiectau p?er glân ledled y wlad.
Bydd GB Energy yn:
• gwneud arian i’r trethdalwr.
• darparu’r genhedlaeth nesaf o swyddi da.
• arbed arian i deuluoedd drwy dorri biliau ynni.
• rhoi sicrwydd ynni i ni fel nad ydym yn dibynnu ar unbeniaid tramor fel Putin.
• gwneud ein dyletswydd i helpu’r blaned.
Edrychaf ymlaen at gefnogi’r mesurau hyn a mesurau eraill fel y gallwn ddefnyddio ynni glân cartref i fynd i’r afael â heriau brys ansicrwydd ynni a’r argyfwng hinsawdd, ac i dorri biliau a chreu swyddi.
