Roedd glanhau’r senedd a dychwelyd y llywodraeth i wasanaeth gweithwyr yn flaenoriaeth amlwg ym maniffesto Etholiad Cyffredinol Llafur a heddiw gwelir y cam cyntaf ymlaen i gyflawni hynny.
Mae llawer yn ddealladwy yn sinigaidd am wleidyddiaeth a gwleidyddion – rhaid trwsio’r cwlwm hwnnw ar fyrder.
Rwy’n cefnogi mesurau sydd gerbron y Senedd heddiw a fydd yn:
• gwahardd ASau rhag cymryd ail swyddi sy’n eu rhwystro rhag gwasanaethu eu hetholwyr a’u gwlad yn briodol.
• creu pwyllgor moderneiddio i ddiwygio gweithdrefnau hen ffasiwn T?’r Cyffredin, codi safonau a gwella arferion gwaith.