Cefais y pleser heno i fynychu dathliadau pen-blwydd LARS Llanelli yn 10 oed – Loud Applause Rising Stars – a gwrando ar nifer o unawdau gwych, wedi’u perfformio’n broffesiynol iawn gan y cantorion ifanc dawnus.
Da iawn i bawb fu’n rhan am eu gwaith dros y blynyddoedd gyda LARS ac am drefnu digwyddiad mor llwyddiannus.