
Cyfarfûm â chynrychiolwyr cwmnïau rheilffyrdd yn y Senedd yr wythnos hon i godi nifer o faterion lleol gan gynnwys:
• yr angen am wasanaethau mwy aml, dibynadwy sy’n cysylltu Llanelli a’i gorsafoedd cyfagos yn Abertawe, Caerdydd a threfi a dinasoedd eraill ledled Cymru a’r DU.
• cynyddu capasiti teithwyr ar wasanaethau presennol ar adegau prysur i ymdopi â’r galw.
• problemau amserlennu a theithiau hwyr neu deithiau wedi’u canslo.
• mynediad gwael i orsafoedd a phlatfformau lleol ar gyfer pobl anabl.
• problemau llifogydd ar hyd rheilffyrdd lleol.
Byddaf yn parhau i fynd ar drywydd y pryderon hyn, ond os oes gennych unrhyw gwynion penodol eraill yn ymwneud â’r rheilffyrdd yr hoffech i mi eu codi, cysylltwch â ni ac fe’u hychwanegu at y rhestr.