Ymunais â channoedd o weithwyr dur a’u teuluoedd mewn rali ym Mhort Talbot y prynhawn yma i gefnogi eu brwydr i achub swyddi Tata Steel ledled Cymru.
Clywsom sawl araith bwerus yn cyflwyno’r achos cadarnhaol dros weithwyr Cymru a dros gadw cynhwysedd cynhyrchu dur cynradd yma yn y DU.