Gydag anhrefn o weinidogion Torïaidd yn mynd a dod, mae Llafur yr wythnos hon wedi cynnig cau bylchau i atal Gweinidogion arhosiad byr rhag gadael gyda thaliadau diswyddo anghyfiawnadwy, yn ogystal â gwahardd y taliadau i unrhyw weinidog a geir yn euog o gamymddwyn difrifol neu dorri’r cod gweinidogol.
Yn syfrdanol, pleidleisiodd y Torïaid i rwystro diwygiadau Llafur, gan ddangos bod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn llanw eu pocedi na dod o hyd i arbedion i drethdalwyr.