Home > Uncategorized > Dadl Diwydiant Dur yng Nghymru

Mae cymaint o gwestiynau heb eu hateb ar fargen Llywodraeth y DU gyda Tata Steel a’i effaith hirdymor ar swyddi lleol yma yn Llanelli.

Yn ddiweddar, sicrheais ddadl yn Neuadd San Steffan yn y Senedd ar ddyfodol diwydiant dur Cymru a galwais ar Weinidogion i fynd i’r afael yn uniongyrchol â phryderon am waith Tata yn Nhrostre a sut y mae’n rhaid ei ddiogelu o dan y cynlluniau.