Home > Uncategorized > Diwrnod Cofio’r Holocost

Heddiw yw Diwrnod Cofio’r Holocost.

Mae thema eleni o freuder rhyddid yn ein hatgoffa o’r angen i fod yn wyliadwrus yn gyson, i amddiffyn rhyddid pobl, rhyddid crefydd a rhyddid i hunan-adnabod, ac i godi llais yn erbyn pob math o ragfarn a chamdriniaeth, er mwyn gwneud yn si?r nad oes dim byd tebyg i’r Holocost byth yn digwydd eto.

Yn ddiweddar, yn y Senedd, llofnodais Lyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, gan anrhydeddu’r rhai a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost yn ogystal â thalu teyrnged i oroeswyr rhyfeddol yr Holocost sy’n gweithio’n ddiflino i addysgu pobl ifanc heddiw.