Os ydych chi yn y dref heddiw ar gyfer parêd Nadolig Llanelli, plîs cefnogwch fusnesau lleol fel Blodau Elli lle prynais i’r blodau hardd hyn, ac edrychwch ar arddangosfa o geisiadau ein cystadleuaeth cardiau Nadolig yn 1 Cowell Presinct (Siop A OEDD yn Siop Deithio). Nadolig gwyrdd oedd y thema a meddyliodd y disgyblion am bob math o syniadau ar gyfer Nadolig ecogyfeillgar.