Mae’r AS lleol y Fonesig Nia Griffith wedi canmol llwyddiannau’r 843 o ymddiriedolwyr elusen yn Llanelli ac mae’n annog eraill i ystyried gwirfoddoli eu hamser yn yr ardal leol drwy ddod yn ymddiriedolwr eu hunain.
Mae 166 o elusennau wedi’u cofrestru yn Llanelli, yn ogystal â llawer o elusennau eraill sy’n gweithredu ar draws yr ardal leol. Mae’r rhain i gyd yn cael eu rhedeg gan ymddiriedolwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn wirfoddolwyr, ac sy’n cymryd cyfrifoldeb am waith hanfodol yr elusen. Heb waith caled ac ymroddiad ymddiriedolwyr, ni fyddai elusennau yn gallu darparu cefnogaeth hanfodol i’r gymuned leol.
Dywedodd y Fonesig Nia, sydd ei hun yn gwirfoddoli fel ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli a Chadetiaid Môr Llanelli:
“Weithiau gall bod yn ymddiriedolwr elusen olygu lawer iawn o amser, egni ac ymrwymiad ond, yn fy mhrofiad i, mae’n sicr yn werth ei wneud os gallwch chi. Mae’n gyfle delfrydol i gyfrannu at fywyd yn y gymuned ehangach a helpu elusennau a sefydliadau lleol gyda’u gwaith hanfodol a gwerthfawr.
Mae cymaint o bobl yn Llanelli wedi dod ymlaen i lenwi’r mathau hyn o rolau a, heb iddynt wneud hynny, ni fyddai llawer o grwpiau’n gallu gweithredu na ffynnu. Mae arnom oll ddyled enfawr i’r rhai sy’n gweithredu fel ymddiriedolwyr ar draws Llanelli am bopeth a wnânt.”