Gallai sibrydion bod Tata Steel yn bwriadu cau’r pen trwm ym Mhort Talbot yn gyfan gwbl o fewn misoedd, cyn adeiladu unrhyw ffwrnais arc trydan newydd neu ystyried opsiynau eraill yn briodol, olygu dechrau diwedd i’r hyn sy’n weddill o ddiwydiant dur y DU.
Mae’n berffaith glir bellach y bydd y cytundeb a wnaeth Rishi Sunak gyda Tata Steel yn gwario hanner biliwn o bunnoedd o arian trethdalwyr i roi miloedd o swyddi mewn perygl, gan gynnwys cannoedd yn Nhrostre.
Mae hyfywedd parhaus Trostre yn parhau i fod yn ddibynnol ar gyrchu dur o ansawdd a wneir ar hyn o bryd yn ffwrneisi chwyth Port Talbot. Y cynllun yw mewnforio’r dur hwnnw o dramor… Ond nid yw colli swyddi yma, dim ond i fewnforio dur yn gwneud unrhyw synnwyr ac nid yw’n gwneud dim i wyrddio’r diwydiant.
Mae gwir angen i Tata Steel a Llywodraeth y DU gamu’n ôl, ailfeddwl a gweithio gydag undebau llafur a Llywodraeth Cymru. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oedd Syr Keir Starmer ym Mhort Talbot yn amlinellu ymrwymiad Llafur o £3bn i fuddsoddi mewn cyfnod pontio priodol, wedi’i ystyried yn ofalus, i ddur gwyrddach yn y DU a dyna’r math o weledigaeth uchelgeisiol y mae gwir angen inni ei gweld gan y Llywodraeth os ydym am gynllunio dyfodol sicr i’r diwydiant yma yng Nghymru.