Home > Uncategorized > Pwysleisio’r angen am Uned Mân Anafiadau 24 awr yn Ysbyty’r Tywysog Philip

Diolch yn fawr i’r rhai sydd wedi fy hysbysu am drafodaethau’r Bwrdd Iechyd ynghylch agor yr Uned Mân Anafiadau gyda’r nos. Rwyf wedi siarad â’r Prif Weithredwr, a ddywedodd fod sawl opsiwn gwahanol yn cael eu trafod o ran lleihau agor yn ystod y nos.

Pwysleisiais pa mor bryderus yw ei bod yn profi mor anodd staffio’r uned hon, ac fe’i hanogais yn gryf iawn i wneud pob ymdrech bosibl i ddod o hyd i’r meddygon angenrheidiol i gadw’r uned ar agor 24/7.

Dywedais wrtho ein bod ni yn Llanelli wir yn bryderus iawn ynghylch unrhyw ostyngiad mewn oriau agor, a phwysleisiais pa mor bwysig yw hi i gael gwasanaeth hygyrch yn lleol ar gael yn hawdd.

At hynny, nodais bydd unrhyw ostyngiad mewn gwasanaeth yma ond yn gwaethygu problemau yng Nglangwili a Threforys, lle y gwyddom fod pwysau eisoes ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys.

Rwyf wedi dilyn i fyny, yn gofyn am ddiweddariad, ac os na chlywaf yn fuan, byddaf yn mynd ar drywydd eto.

Os caf unrhyw newyddion, byddaf yn diweddaru pobl ar gyfryngau cymdeithasol ac yma ar fy ngwefan.

NB Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i mi nad yw’r trafodaethau uchod yn effeithio ar yr Uned Asesu Meddygol Aciwt lle mae’r ambiwlansys yn mynd â phobl, sy’n weithredol 24/7.