Home > Uncategorized > Colofn Llanelli Star………….ar Ddatganiad yr Hydref a’i fethiant i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw

Wrth i’r llwch setlo ar Ddatganiad yr Hydref yr wythnos diwethaf gan y Canghellor, nid oes mawr o lawenydd i’w gael i deuluoedd sydd eisoes dan bwysau yma yn Llanelli.

Y tu ôl i’r holl gleber arferol a gêm bleidiol-wleidyddol Jeremy Hunt, cadarnhawyd yr wythnos diwethaf nid yn unig mai hon fydd y senedd i godi cyfraddau treth fwyaf erioed ond hefyd y bydd y mwyafrif helaeth o bobl leol yn gweld yr ergyd fwyaf i’w safonau byw erioed. Dwbl whammy os bu un erioed.

O dan y llywodraeth hon, disgwylir i’r baich treth gynyddu £4,300 fesul cartref o gymharu â’r adeg y cawsant eu hethol gyntaf. Bydd incwm bobl leol yn dal i fod 3.5% yn is y flwyddyn nesaf na’r cyfnod cyn-bandemig ac mae disgwyl i gyflogau ostwng 0.7% eleni a bron yn wastad y flwyddyn nesaf. Mae chwyddiant yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel, ymhell uwchlaw ei darged ac ers mis Hydref 2021, mae prisiau bwyd wedi codi 30%, mae prisiau nwy wedi codi 60% ac mae prisiau trydan wedi codi 40%. Mae pob un yn parhau i gael effaith ar incwm caled pobl a chynilion.

Yn ychwanegu at y twf economaidd swrth hwnnw, mae mwy o boen ar y gweill i dalwyr morgeisi a rhentwyr a diffyg llwyr unrhyw strategaeth economaidd a diwydiannol – fel y gwelsom yn rhy agos o lawer gyda cham-drin Llywodraeth y DU o Tata Steel, Port Talbot a’i sgil effeithiau bosibl ar swyddi lleol yn Nhrostre – a dechreuwn weld bod y Llywodraeth allan o gysylltiad ac allan o syniadau.

Bob dydd, mae pobl yn dod at fy swyddfa am gymorth pan fyddant yn wynebu anawsterau i gael dau ben llinyn ynghyd, talu biliau hanfodol y cartref a cheisio dod o hyd i rywle i fyw sy’n fforddiadwy ac yn ddibynadwy. Ni fydd Datganiad yr Hydref yr wythnos diwethaf yn gwneud llawer i’w helpu ac, mewn llawer o achosion, bydd yn gwneud bywyd yn anoddach fyth.