Mae gwaith Trostre yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar ddur a gyflenwir yn uniongyrchol o’r broses ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot. Rwyf eisoes wedi siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn galw arno i warantu na fydd y fargen hon yn effeithio ar ansawdd a gradd y dur a gyflenwir ar hyn o bryd i Drostre oddi yno ac nad yw swyddi lleol yma yn Llanelli yn cael eu peryglu o ganlyniad.
Byddaf yn mynd ar drywydd hyn ar frys gyda Gweinidogion Ceidwadol eraill Llywodraeth y DU yn y Senedd hefyd.
Mae’r angen i gynhyrchu dur glanach, gwyrddach yn amlwg ond mae hwn yn edrych fel cyfle a gollwyd.
Mae diffyg ymgynghori â gweithwyr, diffyg ystyriaeth o dechnolegau amgen a diffyg manylder hanfodol ar sut y gall Tata Steel a diwydiant ehangach y DU symud ymlaen mewn cyfnod pontio llyfnach yn gynsail sy’n peri pryder.