Home > Uncategorized > Rhaid inni barhau i sefyll y tu ôl i’r Wcráin

Mwy na 560 diwrnod ar ôl goresgyniad creulon ac anghyfreithlon Putin, bydd Senedd San Steffan heddiw yn myfyrio eto ar y dioddefaint aruthrol y mae’r Wcráin wedi’i ddioddef, a dewrder a gwytnwch rhyfeddol ei phobl.

Mae Llafur yn sefyll yn ddiysgog gyda chynghreiriaid NATO wrth ddarparu cymorth milwrol, economaidd, diplomyddol a dyngarol i’r Wcráin. Rhaid trechu Putin.

Rhaid inni sefyll yn sgwâr y tu ôl i’r Wcráin, gan gryfhau ei llaw ar faes y gad, cefnogi ei rhyddhad ac ailadeiladu, ynysu Putin a thanseilio ymdrech rhyfel Rwsia.