Home > Uncategorized > Galwad brys am gyn-weithwyr y Road Chef

Mae AS Llanelli, y Fonesig Nia Griffith yn galw ar gyn-weithwyr Road Chef i wneud yn si?r eu bod yn ymateb i’r cyfathrebiad diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Budd-daliadau Gweithwyr Road Chef.

Mae tua 4,000 o gyn-weithwyr Road Chef ledled y wlad, gan gynnwys rhai a oedd yn gweithio ym Mhont Abraham, yn dal i aros am daliad ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu’n ôl yn 2014 bod £10.6 miliwn wedi’i dalu mewn treth o enillion cyfranddaliadau gan Ymddiriedolaeth Budd-daliadau Gweithwyr Road Chef mewn gwirionedd yn perthyn i’r Ymddiriedolaeth, ac mae cyn-weithwyr wedi bod yn aros ers 2018 i Cyllid a Thollau EF ad-dalu’r arian sy’n ddyledus iddynt.

Mae ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Budd-daliadau Gweithwyr Road Chef yn gobeithio cael cymeradwyaeth yr Uchel Lys i ddechrau’r broses ddosbarthu cyn bo hir – ar yr amod bod yr Uchel Lys yn rhoi’r gymeradwyaeth honno. Menzies fydd yn trin y broses.

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith AS:

“Mae’n hollol syfrdanol, bron i ddeng mlynedd ers i’r Uchel Lys ddyfarnu bod yr arian hwn yn eiddo’n haeddiannol i’r cyn-weithwyr, eu bod nhw’n dal i aros am yr arian sy’n ddyledus iddyn nhw gan Cyllid a Thollau EF.

Mae hwn yn arian y maent wedi ei roi yn y cynllun hwn fel pensiwn, ac mae angen yr arian hwnnw arnynt yn awr i fyw arno, yn enwedig gyda’r argyfwng costau byw presennol. Mae’r ffaith mai adran o’r llywodraeth sydd wedi bod yn achosi’r oedi yn warthus. Gallaf ddeall yn iawn y gweithwyr sy’n diystyru’r llythyr diweddaraf hwn yn sinigaidd, ond wrth fynd ar drywydd y mater hwn, dywedwyd wrthyf ei bod yn hanfodol bod gweithwyr yn ymateb.”   

Mae’r Aelod Seneddol sydd wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer dros ddychwelyd yr arian sy’n eiddo iddynt, wedi bod yn sgwrsio ag ymgyrchwyr yn ddiweddar. Dylai unrhyw gyn-weithwyr sy’n credu eu bod yn fuddiolwyr ond nad ydynt wedi clywed gan Menzies, gysylltu â Menzies ar unwaith.

Llinell gymorth Menzies yw 0330 912 9355 neu gellir cysylltu â nhw trwy e-bost (REBTL@menzies.co.uk).