Mae’r Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth ar ein system fewnfudo.
Oherwydd yr anhrefn maen nhw wedi’i greu mae gennym ni’r sefyllfa yng Ngwesty Parc y Strade – penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd rydw i wedi’i wrthwynebu o’r cychwyn cyntaf.
Mae gimigau ymrannol ac anymarferol Rishi Sunak wedi methu. Mae arnom angen cynllun cynhwysfawr, realistig i fynd i’r afael â gwreiddyn y broblem. Un sy’n sicrhau ein bod yn helpu’r rhai sy’n wirioneddol ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth ond sydd hefyd yn cymryd camau cryf, cydgysylltiedig i fynd i’r afael â gangiau anfoesol sy’n smyglo pobl.
Dyna pam yr wyf yn cefnogi’r cyhoeddiad a wnaed ychydig ddyddiau yn ôl gan Keir Starmer a fyddai’n ymrwymo egni ac adnoddau sylweddol i wneud yn union hynny.
O dan y Ceidwadwyr, mae euogfarnau am bobl yn smyglo wedi plymio 36% ers 2010. Dim ond 253 o bobl a gafwyd yn euog o smyglo pobl y llynedd. Ar yr un pryd, croesodd bron i 46,000 o bobl y Sianel.
Mae Llafur bellach wedi ymrwymo i greu uned heddlu trawsffiniol newydd wedi’i hariannu gan y miliynau o bunnoedd sy’n cael eu gwastraffu gan y Llywodraeth ar gynllun anymarferol Rwanda.
Byddem yn ceisio Cytundeb Diogelwch newydd ag Ewrop i ddod ag arweinwyr gangiau o flaen eu gwell, gan gynnwys rhannu data a chudd-wybodaeth ar rai dan amheuaeth, a phartneriaeth newydd gydag Europol sy’n galluogi’r DU i chwarae rhan flaenllaw mewn partneriaethau i frwydro yn erbyn smyglo pobl ar draws Ewrop.
Mae cynllun hefyd i lunio Strategaeth Troseddau Difrifol a Threfnedig newydd a fyddai’n cynnwys cryfhau gorchmynion sifil, megis Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol presennol, er mwyn sicrhau y gellir eu defnyddio’n briodol yn erbyn smyglwyr a masnachwyr pobl.
Mae methiant y Llywodraeth Dorïaidd hon i fynd i’r afael â’r gangiau smyglo bellach mor syfrdanol mae angen ei ystyried ar yr un lefel â’r tri bygythiad diogelwch mawr arall sy’n ein hwynebu: newid hinsawdd, pwerau tramor gelyniaethus, a therfysgaeth.
Dylid mynd i’r afael â phob un gyda’r difrifoldeb y maent yn eu haeddu.