Home > Uncategorized > Swyddfeydd Tocynnau Rheilffordd i aros ar agor yng Nghymru

Bu sylw yn ddiweddar ar gynlluniau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i gau swyddfeydd tocynnau mewn gorsafoedd trenau ledled Lloegr.

Bydd hyn yn effeithio ar deithwyr anabl, yr henoed ac eraill ac nid yw’r cynigion wedi’u hystyried yn ofalus, gyda llawer o gwestiynau’n dal heb eu hateb.

Rwy’n falch nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru a Thrafnidiaeth Cymru DIM bwriad i gyflwyno cynlluniau tebyg ac na fydd y cynlluniau hyn yn effeithio Gorsaf Llanelli ac eraill ledled Cymru.

I’r rhai sy’n teithio dros y ffin yn rheolaidd a hoffem ymateb i’r ymgynghoriad yn Lloegr, gallwch wneud hynny yma: Ymgynghoriad swyddfa docynnau gorsaf drenau –

Train station ticket office consultation – Transport Focus