Home > Uncategorized > Gwaith M4 o amgylch Llanelli i ddechrau penwythnos yma

Nodyn cyflym i’ch atgoffa y bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn effeithio’r M4 rhwng Cyffyrdd 47 (Penllergaer) a 49 (Pont Abraham) dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Sul yma ac yn debygol o arwain at aflonyddwch yn yr ardal, yn enwedig dros nos. Dyma’r wybodaeth yr wyf wedi’i chael gan Traffig Cymru a bydd diweddariadau rheolaidd ar gael ar eu gwefan wrth i’r prosiect cael ei gyflawni.