Home > Uncategorized > £1.7bn o arian Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn dal heb ei hawlio

Mae dros filiwn o bobl ifanc yn colli allan ar £1.7bn mewn Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant (CYP) sydd heb eu hawlio.

Mae llawer eisoes wedi elwa o CYP ac wedi cael gafael ar arian a neilltuwyd ar eu cyfer gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Yma yn Llanelli, crëwyd 7,765 o gyfrifon CYP ac nid wyf am i unrhyw un golli allan ar eu cronfa ymddiriedolaeth plant sy’n eiddo iddynt, yn haeddiannol.

Am bob plentyn a aned ar ôl 1 Medi 2002, nes i’r Torïaid roi’r gorau i’r cynllun yn 2011, rhoddodd y Llywodraeth Lafur o leiaf £250 o’r neilltu ar eu cyfer. Aeth yr arian i gyfrif y gallai rhieni ei agor. I blant na ddefnyddiodd eu rhieni eu taleb, sefydlodd y llywodraeth gyfrif yn lle hynny. Gallai rhieni, neiniau a theidiau ac eraill ychwanegu at y cyfrif hefyd.

Roedd y syniad yn syml. Mae pobl sydd â mynediad at gynilion wedi gallu rhoi blaendal ar fflat, prynu car, dechrau busnes neu beth bynnag arall y maent yn dewis ei wneud â’r arian hwnnw. Roedd Llafur eisiau ymestyn yr opsiynau yr oedd teuluoedd cyfoethocach yn eu cymryd yn ganiataol i bob person ifanc.

Mae rhagor o wybodaeth a sut i wirio a ydych chi neu rywun annwyl yn colli allan ar gael yma: https://www.gov.uk/child-trust-funds/find-a-child-trust-fund