Home > Uncategorized > Te Cynghrair Cyfeillion Ysbyty’r Tywysog Phillip

Diolch yn fawr iawn i Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Tywysog Philip am drefnu te mefus blasus y prynhawn yma, Côr Hospital Notes am adloniant hyfryd a phawb a gefnogodd.

Braint ymuno â chi heddiw ar gyfer y digwyddiad cyntaf hwn yn ôl ers Covid. Mae eich ymdrechion anhygoel i godi arian ar gyfer offer ar gyfer YPH wedi helpu i sicrhau bod mwy o driniaethau ar gael yma yn Llanelli neu wedi gwella triniaeth neu fywiogi arhosiad cleifion yno.