
Ydych chi’n cael trafferth talu ôl-ddyledion gyda bil nwy neu drydan?
Mae Ymddiriedolaeth Ynni British Gas bellach wedi ailagor ei Chronfa Unigolion a Theuluoedd ac efallai y gall helpu.
Nid oes angen i chi fod yn gwsmer British Gas i wneud cais – gallwch fod yn gwsmer British Gas, neu’n gwsmer gan gyflenwr arall gydag ôl-ddyledion o hyd at £1,500.
Mae gan Eon, Eon Next, EDF, Scottish Power, Ovo, Octopus ac Utilita (Cwsmeriaid Credyd yn unig) eu cronfeydd eu hunain hefyd i gefnogi eu cwsmeriaid, felly os ydych yn gwsmer i un o’r cwmnïau hyn dylech wneud cais iddynt yn gyntaf.
Er mwyn cael eich ystyried am grant mae’n rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol.
- Nad ydych wedi derbyn grant gan Ymddiriedolaeth Ynni British Gas o fewn y 2 flynedd ddiwethaf
- Mae’n rhaid eich bod yn ceisio grant i glirio dyled ar gyfrif nwy, trydan neu danwydd deuol cyfredol yn eich enw neu’n aelod o’r cartref hwnnw, rhaid i’r cyfrif ynni fod yn berthnasol i’ch prif breswylfa.
- Mae gennych ddyled trydan a/neu nwy
- Rhaid i chi fod mewn neu’n wynebu Tlodi Tanwydd.
- Rydych wedi derbyn cymorth gan asiantaeth cyngor ariannol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: