Home > Uncategorized > Datganiad ar gadarnhad y bydd y Swyddfa Gartref yn defnyddio Gwesty Parc y Strade ar gyfer llety ceiswyr lloches

Mae’r diystyrwch llwyr gan Weinidogion Torïaidd Llywodraeth y DU wrth benderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig hwn er gwaethaf gwrthwynebiad cryf yn lleol a diffyg unrhyw ymgynghori priodol â’r cymunedau cyfagos yn wirioneddol frawychus, hyd yn oed iddyn nhw.

Mae defnyddio Gwesty Parc y Strade fel llety brys ar gyfer tua dau gant o geiswyr lloches sydd wedi’u dal yn yr ôl-groniad prosesu a grëwyd gan y Llywodraeth bresennol, yn debygol o roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus lleol ac mae eisoes wedi cael gwrthwynebiad cryf gan gynghorwyr, darparwyr iechyd, yr heddlu ac eraill.

Ymunaf â hwy, a chyda chymaint o drigolion lleol pryderus yma yn Llanelli, i barhau i wrthwynebu’r penderfyniad difeddwl ac anymarferol hwn.