Home > Uncategorized > Datganiad ar ddiswyddiadau staff Gwesty Parc y Strade

Dywedodd AS Llanelli, y Fonesig Nia Griffith:

“Mae hyn yn newyddion gwarthus ac yn ffordd mor gywilyddus o drin staff presennol y gwesty sydd wedi cael eu cadw yn y tywyllwch yr holl ffordd trwy’r sefyllfa hon gan berchnogion y gwesty. Mae’n ffordd warthus a diraddiol i drin y gweithwyr. Dylai perchnogion y gwestai, Clearsprings a Gweinidogion Torïaidd yn y Swyddfa Gartref â chywilydd o’u penderfyniad.

Rwyf eisoes wedi cysylltu â’r staff yno i gynnig fy nghefnogaeth lawn iddynt yn y cyfnod anodd hwn ac rwy’n falch bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cadarnhau i mi y byddant yn gallu ac yn barod i helpu hefyd.”