Heddiw yn y Senedd dywedais wrth weinidog mewnfudo’r Torïaid, Robert Jenrick AS, cymaint o sioc a phryder oedd clywed ei fod yn bwriadu rhoi cartref i 300 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade.
Gofynnais iddo gyfarfod â mi i glywed ein pryderon a gofynnais iddo beth y mae’n ei wneud i atal yr angen i feddiannu Gwesty Parc y Strade, ac i ddatrys yr ôl-groniad o 160,000 hawliad fel y gellir dychwelyd y rhai o wledydd diogel, fel yr all ffoaduriaid gwirioneddol symud allan o westai a chael eu hintegreiddio mewn niferoedd bach i gymunedau addas.
Gwrthododd ateb a methodd â chytuno i hyd yn oed gwrdd â mi i wrando ar farn pobl leol ar y pwnc.