
Agorwyd cyfleusterau newydd i hybu ansawdd bywyd trigolion cartref gofal Cross Hands, gan gynnwys ali fowlio, siop goffi / bar a 26 ystafell wely arall gan y Fonesig Nia Griffith, Aelod Seneddol lleol yr ardal.
Bydd ehangiad uchelgeisiol ac arloesol Cartref Gofal Gwernllwyn ar Heol Llandeilo nid yn unig yn cynyddu ei allu i groesawu mwy o bobl sydd angen gofal seibiant a phreswyl ond, yr un mor bwysig, yn darparu mwy o bethau i ddiddanu ei breswylwyr a’u teuluoedd.
Bydd yr ali fowlio a’r siop goffi/bar hefyd ar agor i’r cyhoedd a bydd yn caniatáu i’r gymuned leol ryngweithio â’r rhai sy’n byw yn y cartref gofal mewn amgylchedd cyfforddus a diogel. Mae lleoedd parcio ychwanegol wedi’u darparu ar gyfer ymwelwyr hefyd.
Wrth groesawu’r buddsoddiad newydd yn y cartref gofal, dywedodd y Fonesig Nia Griffith AS:
“Pleser pur oedd agor yr estyniad, bar ac ali fowlio newydd sbon yma. Mae’n wych bod trigolion yma yn y Gwernllwyn, eu ffrindiau a’u teulu yn gallu ymlacio a mwynhau diod a gêm heb orfod gadael y cartref gofal.
Gallaf ddychmygu y bydd hefyd yn gwneud ymweld â Mamgu neu Tadcu yn llawer mwy o hwyl i aelodau iau’r teulu, ac rwy’n llongyfarch Will James a’i dîm ar gynllunio a datblygu’r cyfleuster hwn.”


