Home > Uncategorized > Colofn Seren Llanelli – Yr heriau y mae busnesau yn eu hwynebu i oroesi, tyfu a chreu swyddi

Yn fy rôl fel Aelod Seneddol Llanelli ac fel Gweinidog Cysgodol Llafur dros Allforio, rwy’n awyddus i gwrdd â busnesau, a gwrando arnynt, i drafod yr heriau y maent yn eu hwynebu a chanfod beth sydd ei angen arnynt i oroesi, tyfu a chreu swyddi tymor hir, cynaliadwy.

Rydym yn galw am lywodraeth newydd yn y DU sydd o blaid busnes, o blaid gweithwyr ac o blaid masnach, ac sydd â chynllun i hybu twf trwy allforio ledled y DU.

Ar ymweliad diweddar a wneuthum â ffatri Gestamp yn Felinfoel, gwelais y cynnydd a wnaed yno dros y ddegawd ddiwethaf. Pan fyddwn yn meddwl am gerbydau trydan, yn aml nid ydym yn ymwybodol o ddatblygiad paneli ceir caled ac ysgafnach a wneir yma yn Llanelli, sy’n cyfrannu cymaint at ddiogelwch ac effeithlonrwydd cerbydau.

Mae hwn yn amser tyngedfennol ar gyfer penderfyniadau buddsoddi mewn diwydiant. Mae Deddf Gostwng Chwyddiant yr Unol Daleithiau yn chwyldroadol o ran darparu cymhellion i gwmnïau fuddsoddi mewn technolegau gwyrdd. Mae symudiadau tebyg gan wledydd Ewropeaidd mawr yn peri heriau gwirioneddol i’r DU. Mae angen i Lywodraeth y DU gamu i mewn gyda phecynnau tebyg i wneud y DU yn gyrchfan i gwmnïau fel Gestamp a diogelu swyddi lleol presennol.

Dyma un o lawer o enghreifftiau lle mae Llywodraeth bresennol y DU yn ein gadael ar ei hôl hi. Mae ein hallforion wedi gostwng, mae yna ragolygon pryderus ac mae llawer o faterion Brexit dal heb eu datrys.

Tra bod Llywodraeth Dorïaidd bresennol y DU yn poeni mwy amdanynt eu hunain, mae Llafur eisoes wedi gosod eu gweledigaeth ar gyfer Prydain ddeinamig, fasnachol sy’n cipio cyfleoedd.

Byddwn yn parhau i ddarparu mwy o fanylion am hyn dros y misoedd nesaf. Fel rhan o hynny, byddaf yn parhau i ymweld â busnesau lleol, mawr a bach, i gael gwybod ganddynt beth yn union sydd ei angen arnynt i lwyddo.