Yr wythnos hon bûm yn ddigon ffodus i ymweld â Maes Awyr Cotswolds i weld datblygiad awyren sy’n cael ei bweru gan hydrogen gan gwmni o’r enw ZeroAvia, ar fy nhaith wythnosol o Lanelli i San Steffan. Gwelais sut maen nhw’n gwella’r dyluniad i wneud y celloedd hydrogen yn ddigon cryno i ffitio i mewn i’r awyren i bweru’r injans trydan, ac yn ddigon ysgafn i facsimeiddio’i chyrhaeddiad.
Yr un mor gyffrous: dim carbon, aer glanach ac amserlen drawiadol iawn: maen nhw eisoes yn gallu pweru awyren fach ac yn gobeithio bod mewn cynhyrchiad masnachol erbyn 2025, gan ddechrau gydag awyrennau 9 sedd, awyrennau cargo a symud i fyny o fewn chwpl o flynyddoedd i 80 o seddi…….. ac felly’n diwallu anghenion hediadau mewnol.
Ond gwerth ychwanegol arwain arloesedd yw’r potensial ar gyfer allforio i’r llu o wledydd lle mae teithiau awyr mewnol yn darparu cysylltiadau hanfodol, gan gynnwys i gymunedau ynys. Ac yn y tymor hir, i ddatblygu’r dechnoleg ar gyfer awyrennau llawer mwy.
I ddechrau, yn hytrach nag adeiladu awyrennau newydd, bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cynnwys ôl-ffitio awyrennau presennol gyda’r celloedd hydrogen a’r injans trydan. Wrth gwrs bydd y dechnoleg hon ond yn ddi-garbon os mai hydrogen gwyrdd yw’r hydrogen, sy’n golygu bod yn rhaid i’r trydan sydd ei angen i gynhyrchu’r hydrogen ddod o ffynonellau adnewyddadwy. Felly’r weledigaeth yw i feysydd awyr ddatblygu ynni adnewyddadwy a’i ddefnyddio i wneud hydrogen ar y safle i ail-lenwi’r awyrennau.
Er mwyn gwneud yn si?r ein bod yn bwrw ymlaen â symud tuag at net sero a’n bod yn manteisio ar y cyfleoedd allforio hynny, mae angen i Lywodraeth y DU ddarparu’r cymorth angenrheidiol i symud o’r cam ymchwil a datblygu i weithgynhyrchu, yn ogystal â’r cymhellion priodol i ddatblygu’r seilwaith hydrogen mewn meysydd awyr. Byddaf yn pwyso i hynny ddigwydd.