
Yr wythnos diwethaf, gwnaeth fy ymweliad â gr?p lleol y Gymdeithas Strôc argraff fawr arnaf sy’n helpu dioddefwyr strôc i wella o’r anawsterau corfforol, meddyliol ac emosiynol a all ddod yn sgil strôc.
Yn aml, mae strôc yn ddirybudd ac mae’n ddigwyddiad trawsnewidiol sy’n cael effaith fawr, nid yn unig ar y dioddefwr ond ar eu teulu hefyd, gan effeithio ar bopeth o gyflogaeth ac amgylchiadau ariannol i berthnasau yn eu bywyd cymdeithasol. Felly roedd yn galonogol clywed cyn gynted ag y bydd claf strôc yn cael ei ryddhau o’r ysbyty, mae’r Gymdeithas Strôc leol yn cysylltu ac yn cynnig ystod eang o arbenigedd a chymorth.
Mae’r gr?p cymorth yr ymwelais ag yn rhan o’r cymorth parhaus hwnnw: mae’n cyfarfod unwaith y mis ac yn galluogi dioddefwyr a’u teuluoedd i gael mynediad at gymorth a gwybodaeth yn ogystal â rhannu gwybodaeth a phrofiadau â’r rhai sy’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg.
Mae’r cymorth a ddarperir gan y Gymdeithas Strôc yn Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn amhrisiadwy ac roedd yn galonogol gweld a chlywed yn uniongyrchol gan bob unigolyn sut y maent wedi cael eu cefnogi, gyda’r Gymdeithas Strôc yn aml yn eu galluogi i ddatrys neu ragweld anawsterau.

