Mae dadansoddiad Llafur wedi datgelu y bydd y cartref cyffredin yn etholaeth Llanelli yn cael ei roi dan hyd yn oed mwy o bwysau nag erioed oherwydd camreoli’r economi gan y Ceidwadwyr.
Mae dadansoddiad gan y Blaid Lafur wedi canfod bod disgwyl i forgeisi godi ar draws y DU, gan gynnwys £1,450 y flwyddyn ar gyfartaledd yn Llanelli.
Mae’n dilyn rhybudd gan Fanc Lloegr ym mis Rhagfyr y bydd tua hanner y cartrefi â morgais, sef cyfanswm o 4 miliwn, yn agored i gynnydd mewn cyfraddau eleni, a Bloomberg yn adrodd y bydd tua 800,000 yn gweld cyfraddau eu morgais yn dyblu.
Yr wythnos hon, nododd prif economegydd yr IMF gyfraddau morgais uwch fel rheswm dros berfformiad gwael Prydain ar ôl i amcangyfrifon twf y wlad gael ei israddio, gan ein gadael fel yr unig economi fawr a ddisgwylir i grebachu yn 2023.
Dywedodd y Fonesig NIA GRIFFITH AS, AS Llafur Llanelli:
“Mae cosb morgais y Torïaid yn ddinistriol i gyllid teuluoedd ac yn dal ein heconomi yn ôl. Mae’r wlad yn dirywio o ganlyniad i 13 mlynedd o gamreoli gan y Ceidwadwyr, a phobl leol sy’n gweithio’n galed sy’n talu mwy ar eu morgais unwaith eto.
Mae pobl yn gofyn a ydyn nhw a’u teuluoedd yn well eu byd o dan y Torïaid. Yr ateb yw na. Yn anffodus, mae 6,800 o deuluoedd ar draws fy etholaeth yn awr yn talu’r pris uniongyrchol am fethiannau Johnson, Truss a Sunak.
Drwy sefydlogi’r economi, ei gwneud yn gryfach a’i dyfu, bydd Llafur yn ein hatal rhag mynd o argyfwng i argyfwng, ac yn gwneud i Brydain llwyddo eto.”