Mae’n bosibl bod llawer o bensiynwyr ar draws Sir Gaerfyrddin colli allan ar gymorth Credyd Pensiwn hanfodol a allai ddod â chyfartaledd o £2,700 yn ychwanegol i’w cartrefi bob blwyddyn.
Amcangyfrifir bod gwerth £5 miliwn o Gredyd Pensiwn y flwyddyn yn mynd heb ei hawlio yn y sir y gallai pobl leol ei ddefnyddio yn ystod yr argyfwng costau byw hwn i helpu i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae’n broblem genedlaethol hefyd gyda miliwn o gartrefi yn cael eu heffeithio.
Mae Credyd Pensiwn yn darparu arian parod ychwanegol i’r rhai sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Mae ar wahân i Bensiwn y Wladwriaeth ac efallai y gallwch fod yn gymwys hyd yn oed os oes gennych incwm arall, cynilion neu os ydych yn berchennog t?. Gall hefyd weithredu fel “porth” budd-dal sy’n agor drysau i gymorth ychwanegol gyda chostau tai, y dreth gyngor, trwyddedau teledu a mwy.
Dyma’r budd-dal sy’n cael ei dan-hawlio fwyaf ac nid yw tua chwarter y rhai sy’n gymwys i’w hawlio yn gwneud hynny, gan golli allan ar gymorth.
Dyna pam rwy’n benderfynol o annog cymaint o drigolion lleol sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i wneud cais.
Yn ddiweddar cynhaliais ddigwyddiad yng Nghanolfan Selwyn Samuel i godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn a ddenodd dros 150 o bobl, gydag arbenigwyr o’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, yr Adran Gwaith a Phensiynau a sefydliadau eraill wrth law i helpu. Dylai unrhyw un sy’n meddwl eu bod nhw, neu anwyliaid, fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, ceision mwy o wybodaeth amdano cyn gynted â phosibl.
Gellir gwneud ceisiadau ar-lein ar www.gov.uk/credyd pensiwn neu dros y ffôn ar 0800 99 1234. Os oes angen help arnoch i gyflwyno hawliad, yna mae fy swyddfa’n hapus i’ch cynorthwyo a chysylltu â chynghorydd arbenigol i’ch arwain drwy’r broses. Cysylltwch â ni ar 01554 756374 neu e-bostiwch nia.griffith.mp@parliament.uk.