Mae Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad yn dechrau’r penwythnos yma a bydd cefnogwyr yn ymgasglu mewn tafarndai, clybiau ac ystafelloedd byw ar draws Llanelli i gefnogi ein chwaraewyr wrth iddynt ymdrechu am lwyddiant ar y cae.
Oddi ar y cae, fodd bynnag, mae’r penawdau wedi’u dominyddu gan ddatguddiadau niweidiol yngl?n â sut mae’r gêm yng Nghymru yn cael ei rhedeg gan Undeb Rygbi Cymru a sut mae casineb at fenywod, rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia wedi cael eu gadael i fodoli ac ymledu o fewn ei sefydliad dros y blynyddoedd.
Mae’r tystebau dewr a welir ar raglen BBC Wales Investigates yn dangos y bwlio a’r agweddau gwenwynig sydd wedi bodoli ar lefel uchaf rygbi Cymru. Nid y rhain, o bell ffordd, yw’r unig enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn mynd yn ddi-gosb yn rygbi Cymru ac rwy’n ymwybodol o achosion pellach yn nes at adref sy’n adrodd stori debyg, flin.
Am ormod o amser, mae’r pethau hyn wedi’u hysgubo o dan y carped. Gadewch i olau’r haul fod y diheintydd gorau gan sicrhau fod y gêm bellach yn cael ei glanhau ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Tra bod ymddiswyddiad Prif Weithredwr yr Undeb a’i ymrwymiad diweddar i greu tasglu allanol i ymchwilio’n llawn i’r sefyllfa wedi’i groesawu, dechrau ac nid diwedd y broses ddylai hyn fod. Mae angen diwygiad trylwyr a brys o strwythur llywodraethu’r gêm a moderneiddio’r sefydliad cyfan a phob un o’i rannau cyfansoddol.
O’r top i’r gwaelod, mae angen i’r gêm edrych yn galed arno’i hun. Mae angen i URC arwain y ffordd ond rhaid i bob lefel, gan gynnwys clybiau cymunedol lleol a’r rhanbarthau, sicrhau nad ydynt yn hunanfodlon nac yn cydymffurfio hefyd.
Dylai pob math o chwaraeon fod yn agored, yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb sy’n dymuno cymryd rhan. Nid yw rygbi, fel ein hobsesiwn cenedlaethol, yn sicr yn eithriad.