
Yn gynharach yr wythnos hon llofnodais Lyfr o Ymrwymiad yr Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost (DU) yn y Senedd yn addo fy ymrwymiad i #DiwrnodCofio’rHolocost ac anrhydeddu’r rhai a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost yn ogystal â’r goroeswyr rhyfeddol sy’n gweithio’n ddiflino i addysgu pobl ifanc heddiw.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn digwydd ar 27ain Ionawr bob blwyddyn, sef pen-blwydd rhyddhau’r hen wersyll crynhoi Natsïaidd, Auschwitz-Birkenau, ym 1945.
Ledled y DU – a’r byd – bydd pobl yn dod at ei gilydd i gofio erchylltra’r gorffennol a bydd miloedd o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu i gofio holl ddioddefwyr yr Holocost a hil-laddiad dilynol.