Home > Uncategorized > Colofn Llanelli Star – Am flwyddyn mae hi wedi bod….

Wrth i’r Nadolig agosáu, mae’n bwysig inni gymryd peth amser i fyfyrio ar flwyddyn ryfeddol hyd yn hyn.

Mae tri Phrif Weinidog, 4 Canghellor, economi’r DU wedi’i chwalu gan Lywodraeth mewn anhrefn parhaol ac argyfwng costau byw gyda chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd wedi golygu y bydd 2022 yn cael ei chofio mewn gwleidyddiaeth am amser hir i ddod. Mae rhyfel yn Wcráin, aflonyddwch ar draws gwasanaethau cyhoeddus a theimlad bod gennym bellach Lywodraeth Geidwadol sydd allan o egni a syniadau wedi gadael llawer o bobl yn teimlo’n sarrug dros y deuddeg mis diwethaf.

Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, yr wyf yn falch o’r modd y mae cymunedau lleol wedi gwrthod rhoi’r gorau iddi yn wyneb y fath adfyd.

Tra bod bywyd i lawer yn parhau i fod yn her feunyddiol, gobeithio y bydd yr wythnosau nesaf yn rhoi cyfle dros yr ?yl i ddod ynghyd, mwynhau cwmni eraill ac edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl.

Mae wedi bod yn fraint yn ystod yr wythnosau diwethaf i mi allu ymweld â sawl ysgol a gr?p cymunedol i gefnogi eu dathliadau Nadolig. Mae wedi bod yn wirioneddol galonogol gweld ysbryd cymunedol yn dal yn fyw ac yn iach ledled Llanelli. O wasanaethau eglwysig i ddigwyddiadau elusennol, cystadlaethau celf, i gynnau goleuadau’r Nadolig, mae llawer i’w ddweud am sut mae pobl yn dal i hoffi rhannu’r llawenydd a’r bositifiaeth a ddaw yn sgil yr adeg hon o’r flwyddyn.

Fel bob amser, rwy’n awyddus i helpu pobl yn fy etholaeth yn Llanelli ac i gwrdd â chymaint o fusnesau, sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol ag y gallaf. Os oes gennych unrhyw faterion yr ydych yn meddwl y gallaf gynorthwyo â nhw, cysylltwch â ni naill ai drwy e-bost ar nia.griffith.mp@parliament.uk neu drwy ffonio fy swyddfa ar 01554 756374.

Gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!