Home > Uncategorized > Mae cystadleuaeth Cerdyn Nadolig yn dangos talentau disgyblion lleol ar eu gorau

Mae plant ysgol o bob rhan o Lanelli wedi bod yn dangos eu sgiliau celf fel rhan o gystadleuaeth i ddylunio’r Cerdyn Nadolig blynyddol i’w ddefnyddio gan y Fonesig Nia Griffith AS a Lee Waters AS.

Cyflwynwyd cannoedd o geisiadau Nadoligaidd gan ddisgyblion o 13 ysgol ar y thema eleni, sef “Nadolig o gwmpas y byd”, gyda’r dyluniadau buddugol o’r categorïau babanod a disgyblion iau yn cael eu defnyddio fel y prif ddyluniad ar gyfer cannoedd o gardiau a fydd yn cael ei anfon allan gan gynrychiolwyr Llanelli yn y Senedd a San Steffan y Nadolig hwn.

Roedd y dasg o feirniadu pob un o’r cynigion yn un anodd a beirniadwyd gan drigolion Llanelli Christine Davies, Uwch Gynghorydd Iechyd Galwedigaethol yn Tata Steel, Juliet Thomas-Davies, Postfeistres yn Swyddfa Bost Stryd Ann, a Christine Clarke.

Yn dilyn trafodaethau maith, enillydd y categori Babanod oedd William Nicholson o Ysgol Llannon. Roedd ei ddyluniad yn cynnwys y Ddaear fel ei chanolbwynt gyda lluniau o bobl ac uchafbwyntiau Nadoligaidd o’i chwmpas.

Yn y categori Iau, Ruby Reese Davies o Ysgol Gynradd Dyffryn y Swisdir gipiodd y wobr gyda darlun trawiadol o fflagiau o bedwar ban byd ynghyd â chyfarchion Nadolig mewn ieithoedd gwahanol.

Yr ail oreuon yn adran y Babanod oedd Sebastian Bessant (Dyffryn y Swisdir), Aneurin Bevan (Dyffryn y Swisdir), Celyn Pentall (Halfway) a Kira Lloyd (Ysgol Y Felin) ac yn y categori Iau: Oscar James Bowen (Ffwrnes), Gwenllian Jones (Ysgol Parc y Tywyn), Ffion Lewis (Dyffryn y Swisdir), Caio Llewellyn Owen (Ysgol Pum Heol), Madison Phillips (Ysgol Y Felin), Kelsie Rees (Pen-bre).

Bydd dyluniadau’r ddau enillydd yn cael eu cynnwys ar gardiau Nadolig yr ASau, ynghyd â nifer o gynigion yr ail wobr, a bydd copïau mewn ffrâm yn cael eu rhoi i’r disgyblion buddugol a’u hysgolion.

Dywedodd AS Llanelli, y Fonesig Nia Griffith:

“Roedd yn wych gweld cymaint o ysgolion yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni ac roedd yr amser a’r ymdrech yr oedd pob plentyn wedi’u rhoi yn eu cais yn galonogol iawn.

Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn ffordd wych o gael pawb i fwynhau hwyl y  Nadolig a llongyfarchiadau arbennig i’r ddau enillydd, William a Ruby. Roedd eu gwaith yn wirioneddol wych.

Diolch hefyd i’r tri beirniad a wirfoddolodd eu hamser. Roedd eu gwaith yn wych.”

Ychwanegodd Lee Waters, AS Llanelli:

“Unwaith eto, mae plant Llanelli wedi ein gwneud yn falch. Mae’n mynd i ddangos cymaint o dalent a gallu artistig sydd yn ein hysgolion lleol a diolch yn fawr i’r holl athrawon, staff a phlant a lwyddodd i’w ffitio yn eu hamserlenni prysur dros y misoedd diwethaf.

“Bydd y dyluniadau buddugol a detholiad o gynigion eraill nawr yn cael eu harddangos yn gyhoeddus ym Mhlas Llanelly o ddydd Sadwrn, 3ydd Rhagfyr. Byddai Nia a minnau’n annog pawb sy’n gallu galw heibio i weld gwaith caled y disgyblion i wneud hynny a gwerthfawrogi’r dyluniadau anhygoel a gawsom.”

Diolch hefyd i George a Liz Parker sydd wedi bod mor garedig â noddi’r gystadleuaeth eto eleni.