Gallai rhoi’r gorau i ymrwymiad Maniffesto’r Ceidwadwyr 2019 i’r clo triphlyg ar bensiynau’r wladwriaeth am yr ail flwyddyn yn olynol adael 17,330 o bensiynwyr yn Llanelli £900 yn waeth eu byd y flwyddyn ar gyfartaledd, yn ôl dadansoddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae ffigurau o Lyfrgell T?’r Cyffredin yn dangos bod pensiynwyr yn etholaeth Llanelli yn wynebu toriad cyfartalog o £407.75 yn 2023/24 os bydd ymrwymiad maniffesto’r Ceidwadwyr i’r clo triphlyg yn cael ei dorri eto pan fydd pensiynau’n cael eu huwchraddio ym mis Ebrill 2023.
Mae’r golled hyd yn oed yn fwy wrth ystyried beth fyddai pensiwn y wladwriaeth wedi bod pe na bai’r clo triphlyg eisoes wedi’i dorri yn 2022. O ystyried hyn, gallai pensiynwyr yn Llanelli fod £900 yn waeth eu byd yn gyffredinol, o gymharu â’r hyn y byddai pensiwn y wladwriaeth wedi bod pe bai’r clo triphlyg yn cael ei gymhwyso yn 2022 a 2023.
Wrth sôn am y ffigurau, dywedodd AS Llafur Llanelli, y Fonesig Nia Griffith:
“Roedd y Torïaid eisoes wedi bradychu pensiynwyr dros y Clo Triphlyg y llynedd, ac mae’n warthus eu bod yn ystyried hyn unwaith eto.
“Fe wnaethon nhw gambl beryglus gyda’r economi ac maen nhw nawr yn gofyn i bensiynwyr yn Llanelli dalu’r pris. Mae pobl h?n eisoes wedi dioddef y toriad mwyaf erioed mewn termau real i’w Pensiwn y Wladwriaeth ac maent bellach yn wynebu bod £407.75 arall yn waeth eu byd o dan y Torïaid.
“Byddaf yn brwydro i wrthwynebu unrhyw ymgais gan y Torïaid i dorri’r Clo Triphlyg ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddaf bob amser ar ochr pensiynwyr, sydd wedi rhoi cymaint i’n gwlad ac sy’n haeddu sicrwydd ac urddas ar ôl ymddeol.”