Dydd Sadwrn yma, bydd busnesau lleol ledled Llanelli yn nodi dydd Sadwrn y Busnesau Bach.
Yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach, mae busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 99% o fusnesau yn y DU ac yn creu 16 miliwn o swyddi. Bellach yn ei ddegfed flwyddyn, mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn dathlu’r llwyddiant hwn ac yn annog defnyddwyr i ‘siopa’n lleol’ ac i gefnogi busnesau yn eu cymunedau eu hunain.
Mae busnesau bach yn wynebu llawer o anawsterau gan gynnwys economi ar chwâl, costau ynni cynyddol a phroblemau cadwyn gyflenwi. Bydd Datganiad yr Hydref y Llywodraeth Dorïaidd gyda’i hagenda treth uchel, twf isel yn gadael hyd yn oed llai o arian ym mhocedi pobl gan wneud pethau’n anoddach fyth. Mae angen ein cefnogaeth arnynt nid yn unig i oroesi ond i lwyddo.
Mae busnesau bach yn gwneud llawer i gyfoethogi ein bywydau a’n cymunedau, gan ddarparu swyddi, hyfforddiant a sbarduno twf economaidd. Er mwyn iddynt lwyddo, mae arnynt angen Llywodraeth y DU sydd o blaid gweithwyr ac o blaid busnes ac sy’n bartner cryf ac effeithiol, gan ddod â sefydlogrwydd a chymorth ymarferol. Ni all anhrefn presennol y Torïaid ddarparu hynny.
Dim ond newid llywodraeth ar lefel y DU all sicrhau’r newid sydd angen ar fusnesau bach.
Mae eisoes gan Lafur gynllun a fydd yn helpu perchnogion tyfu eu busnes, ar unwaith ac yn y tymor hir.
Bydd ein strategaeth ddiwydiannol yn nodi fframwaith hirdymor ar gyfer polisi busnes, gan sicrhau sicrwydd, sefydlogrwydd a dim newidiadau annisgwyl. Byddai Llywodraeth Lafur y DU yn cadw biliau ynni i lawr am byth, gyda strategaeth gredadwy i gynyddu argaeledd ffynonellau p?er rhad a glân yma yn y DU. Mae cymorth i’r hunangyflogedig hefyd yn rhan o’r hafaliad a bydd Llywodraeth Lafur y DU yn ymestyn yr amddiffyniadau i weithwyr hunangyflogedig gan gynnwys yr hawl i dâl salwch.
Y penwythnos hwn, byddaf yn cefnogi busnesau bach lleol yn fy etholaeth ar bob cyfle. Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n gallu gwneud hynny hefyd.