Wrth i’r Prif Weinidog newydd, Liz Truss, sefydlu ei hun yn 10 Downing St yr wythnos hon, does dim prinder o faterion pwysig yn galw am ei sylw.
Y mater mwyaf o bell ffordd yw’r argyfwng cost-byw sy’n amlyncu’r wlad.
Mae’n gwbl briodol i deuluoedd boeni am sut y maent yn mynd i dalu’u biliau nwy a thrydan llethol gaeaf eleni. Er bod y Torïaid wedi cymryd misoedd i benderfynu ar eu harweinyddiaeth, maent wedi sôn braidd dim am sut ydynt yn mynd i helpu pobl i gael dau ben llinyn ynghyd drwy’r hydref a’r gaeaf.
Mae Llafur eisoes wedi cadarnhau cynigion brys, sydd wedi’i gostion llwyr, i rewi prisiau ynni, gwerth £29 biliwn. Ai tro pedol gyntaf Truss fydd i wrthdroi ei gwrthwynebiad i’r hyn y mae hi’n ddirmygus ei alw’n “handouts” ac yn mabwysiadu cynllun tebyg?
Bydd yn rhaid i fusnesau, mawr a bach, yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai hefyd ymdopi â chostau ynni uwch a chwyddiant rhemp. Hyd yn hyn ni fu unrhyw arwydd gan Lywodraeth y DU o unrhyw ddiddordeb mewn darparu cymorth ar eu cyfer. Os na fydd hynny’n newid yn fuan, bydd miloedd o fywoliaethau’n cael eu colli, gan greu niwed anadferadwy i’n cymunedau lleol a’n heconomi.
Bydd materion brys eraill yn cynnwys sut i atal yr argyfwng GIG disgwyliedig yn Lloegr, dod o hyd i ffordd drwy anawsterau Protocol Gogledd Iwerddon ac ymdrin â’n hymrwymiadau newid hinsawdd Net Sero erbyn 2050 wrth sicrhau ein cyflenwad ynni ar gyfer yr hir dymor.
Gydag arolygon barn yn awgrymu bod pleidleiswyr yn meddwl llai amdani y mwy y maent yn ei weld ohoni, mae gan Liz Truss ffenestr fer iawn i osod ei stondin ac argyhoeddi’r cyhoedd y gall hi, fel pedwerydd Prif Weinidog y Torïaid mewn deuddeg mlynedd, gwneud gwahaniaeth.
Ar hyn o bryd, mae llawer mwy o gwestiynau nag atebion.