Gwelodd cyhoeddiad cyllideb fach ddydd Gwener diwethaf ddychweliad at economeg casino – gamblo morgeisi a chyllid pob teulu yn y wlad.
Gwnaeth y Canghellor yn glir beth yw ei flaenoriaethau. Nid cynllun ar gyfer twf, ond cynllun i wobrwyo’r cyfoethog drwy ddileu cyfradd uchaf treth incwm. Dychweliad i’r ddamcaniaeth diferu i lawr. Dewisodd y Torïaid hefyd warchod elw annisgwyl y cewri ynni.
Mae 12 mlynedd o lywodraeth Dorïaidd wedi ein gadael gyda thwf is, buddsoddiad is a chynhyrchiant is. Yr unig bethau sy’n codi yw chwyddiant, cyfraddau llog, bonysau bancwyr a benthyciadau gan y llywodraeth.
Mewn argyfwng cost-byw, mae’r llywodraeth yn benthyca gan bobl sy’n gweithio ac yn ychwanegu at ein dyled genedlaethol i roi rhodd treth o £2bn i’r 1 y cant mwyaf cyfoethog. Mae’r newidiadau hyn yn golygu y bydd nyrs yn talu bron yr un gyfradd dreth ymylol â miliwnydd cyn bo hir.
Dywed y Torïaid y bydd hyn oll yn “datgloi twf” ond mae eu record yn adrodd stori wahanol. Y tro diwethaf i dwf Cynnyrch Domestig Gros gael ei gynnal ar 2.5% oedd o dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf. Bu dim ond 1.5% ar gyfartaledd o dan y Ceidwadwyr. Rhagwelir y bydd y DU bellach â’r twf arafaf o unrhyw economi ddatblygedig fawr y flwyddyn nesaf.
Dros y dyddiau diwethaf, mae’r bunt wedi gostwng i’r lefel isaf erioed yn erbyn y ddoler ac mae costau benthyca’r DU wedi codi i’w lefel uchaf ers 2008. Mae dadansoddwyr yn disgwyl i gyfraddau llog gyrraedd 5% y flwyddyn nesaf i wrthbwyso’r benthyca ychwanegol, a fydd yn ychwanegu cannoedd o bunnoedd y mis i forgeisi.
Mae honiad y Torïaid i fod yn blaid cymhwysedd economaidd a thegwch bellach yn anghredadwy. Yn anffodus, teuluoedd lleol sy’n gweithio’n galed fydd yn talu’r pris yn y pen draw.