Home > Uncategorized > Colofn Llanelli Standard- Mae codiadau mewn prisiau ynni yn argyfwng economaidd

Rwyf wedi clywed gan gynifer o bobl ledled Llanelli sy’n bryderus iawn am y cynnydd arfaethedig i’r cap ar brisiau ynni a sut y maent yn mynd i gael dau ben llinyn ynghyd y gaeaf hwn.

Rydym bellach mewn argyfwng economaidd cenedlaethol, ond yr unig ymateb gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sydd wedi bod yn segur ar y mater hyd yn hyn, yw blaenoriaethu elw’r cewri olew a nwy o flaen teuluoedd lleol.

Ni fyddai Llafur yn gadael i bobl dalu ceiniog yn fwy ar eu biliau tanwydd gaeaf.

Yn ddiweddar, rydym wedi cyflwyno cynllun gwerth £29bn wedi’i gostio’n llawn a fyddai’n:

Byddai’r cynllun hyn yn atal y cap ar brisiau ynni rhag codi drwy’r gaeaf, ariannir gan dreth ychwanegol wrth y cewri olew a nwy sy’n gwneud elw syfrdanol. Byddai’n arbed £1,000 i’r teulu arferol nawr, cadw costau ynni dan reolaeth ar gyfer y dyfodol a hefyd yn lleihau chwyddiant.

Byddai’r pecyn cymorth rydym wedi’i gyhoeddi hefyd yn lleihau’r galw am ynni, yn gostwng biliau yn y tymor hir ac yn creu swyddi newydd drwy insiwleiddio miliynau o gartrefi ledled y wlad dros y degawd nesaf drwy Gynllun Cartrefi Cynnes. Yn wreiddiol, fe wnaethom annog y llywodraeth i roi’r cynllun hwn ar waith flwyddyn yn ôl. Pe byddent wedi gweithredu, gallent fod wedi insiwleiddio 2 filiwn o’r cartrefi oeraf erbyn y gaeaf hwn – gan arbed £1,000 ychwanegol bob blwyddyn ar eu biliau ynni i’r cartref arferol.

Bydd rhewi’r cap ar brisiau yn dod â chwyddiant i lawr gan 4%, gan wneud codiadau mewn cyfraddau llog yn y dyfodol yn llai tebygol a lleddfu’r baich ar deuluoedd a busnesau. Byddai polisïau eraill Llafur hefyd yn sicrhau ein cyflenwad ynni i’n hamddiffyn rhag argyfyngau egni yn y dyfodol ac yn adeiladu annibyniaeth ynni Prydain.

Byddai Llafur yn cymryd camau i atal biliau rhag codi nawr ac yn creu ynni cynaliadwy ar gyfer y dyfodol – gan helpu pobl drwy’r gaeaf tra’n gosod sylfaen ar gyfer economi cryfach a cadarn. Mae’n destun pryder nad oes gan y llywodraeth Dorïaidd segur hon a’r ddau ymgeisydd ar gyfer Prif Weinidog unrhyw gynllun cydlynol i fynd i’r afael â maint yr argyfwng hwn.

Gwn fod y misoedd nesaf yn debygol o fod yn anodd iawn i lawer o’m hetholwyr, felly cysylltwch â’m swyddfa os hoffech rannu eich profiadau, neu os credwch fod unrhyw beth y gallaf ei wneud i helpu.