Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i waethygu.
Rwyf wedi siarad â chymaint o bobl ledled Llanelli sy’n ofni sut y byddant yn dod drwy’r gaeaf, heb wybod a fyddant yn gallu talu eu biliau neu ddefnyddio nwy a thrydan pan fydd gwir eu hangen arnynt.
Rydym bellach mewn argyfwng economaidd cenedlaethol, ond yr unig ymateb gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sydd wedi bod yn segur ar y mater hyd yn hyn, yw blaenoriaethu elw’r cewri olew a nwy o flaen teuluoedd lleol.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llafur gynllun manwl gwerth £29bn i atal biliau rhag cynyddu’r gaeaf hwn, gan arbed £1,000 i gartrefi, ariannir gan dreth ychwanegol wrth y cewri olew a nwy sy’n gwneud elw mwyaf erioed. Bydd hyn hefyd yn helpu dod â chwyddiant i lawr gan 4%, gan wneud codiadau mewn cyfraddau llog yn y dyfodol yn llai tebygol a lleddfu’r baich ar deuluoedd a busnesau.
Mae’n bwysig gwneud yn si?r bod biliau’n dod i lawr yn y tymor hir hefyd. Dyna pam mae’r cynllun yn addo buddsoddi mwy mewn ffynonellau ynni cynaliadwy Prydeinig sy’n golygu na fydd yn rhaid i ni ddibynnu ar danwydd ffosil drud, wedi’i fewnforio. Mae mwy o fuddsoddiad hefyd yn cael ei ddyrannu i insiwleiddio miliynau yn fwy o gartrefi, gan leihau faint o ynni sydd ei angen arnom ac arbed hyd yn oed mwy o arian oddi ar filiau.
Y ffaith yw bod y Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth ar yr economi, a phobl sy’n gweithio yn talu’r pris yn awr. Rydym wedi cael 12 mlynedd o lywodraeth sydd wedi methu i sicrhau ein cyflenwadau ynni, gan adael biliau’n uwch a’n gwlad yn llai diogel.
Byddai’r cynllun Llafur a gyflwynwyd yr wythnos hon yn atal biliau rhag codi nawr ac yn creu ynni cynaliadwy ar gyfer y dyfodol – gan helpu pobl i ddod drwy’r gaeaf tra’n gosod sylfaen ar gyfer economi cryfach a cadarn.