Home > Uncategorized > Colofn Llanelli Standard – Mae Newid Hinsawdd yn broblem nawr

Gyda recordiau tymheredd y DU yn cael eu chwalu ym mis Gorffennaf, nid oes amheuaeth bellach nad yw newid hinsawdd yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol mwyach ond yn fater presennol a chlir nawr.

Mae gweithgaredd dynol yn cyfrannu’n fawr at y cynnydd diweddar mewn tywydd eithafol ac mae’r ystadegau’n creu darlun sy’n peri pryder.

Nid yw dyddiau lle mae’r mercwri yn taro dros 40 gradd Celsius yn y DU bellach yn mynd i fod yn anghyffredin wrth i’r Ddaear gynhesu. Mae tywydd poeth yn debygol o ddigwydd yn amlach ac yn parhau yn hirach. Mae’r rhan fwyaf o’r diwrnodau poethaf a gofnodwyd erioed wedi digwydd yn yr 20 mlynedd diwethaf ac mae’n batrwm sydd, yn anffodus, ar fin parhau.

Roedd yn hynod o siomedig, felly, gweld yr ymgeiswyr yn cystadlu i fod yn arweinydd nesaf y Torïaid a’n Prif Weinidog nesaf, prin yn sôn am newid hinsawdd a thargedau Net Sero yn ystod eu hymgyrchu. Prin y soniwyd am y cynnydd yn y tymheredd a digwyddiadau tywydd eithafol mwy cyffredin. A hyd yn oed bryd hynny, dim ond i geisio bychanu’r sefyllfa ddifrifol iawn hyn yr oedd hynny.

Heb gamau prydlon a chlir i leihau allyriadau nwyon t? gwydr, ailadeiladu ein bioamrywiaeth a newid ein ffordd o fyw, fydd y problemau ond yn gwaethygu. Bydd byw mewn gwlad lle nad yw adeiladau, seilwaith a chysylltiadau trafnidiaeth wedi’u dylunio ar gyfer yr amodau hyn yn gofyn am newidiadau enfawr i’n cartrefi a’n gweithleoedd er mwyn cadw i fyny.

Mae’r haf hwn mewn gwirionedd wedi bod yn agoriad llygaid o ran gofalu am ein hamgylchedd a’n hinsawdd.

Bellach mae angen i lywodraethau ym mhob gwlad ac o bob perswâd gwleidyddol ddarparu arweinyddiaeth a dynameg. Dylem fod yn cymryd hyn yr un mor ddifrifol ag y gwnaethom y pandemig Covid ac mae angen ymrwymo llawer mwy o amser, ffocws ac adnoddau ariannol. Nid nawr yw’r amser i ystyried cymryd camau yn ôl.

Fel unigolion a chymunedau, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd hefyd.

Dyma bum peth y gallwn ni i gyd, fel unigolion, ganolbwyntio arnynt i wneud ein rhan:

Cadwch y pwysau ymlaen. Mae ymgyrchu ar newid hinsawdd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i feddylfryd a pholisïau llywodraethau, busnesau a sefydliadau eraill. Mae p?er pobl wir yn gweithio a thrwy gymryd ychydig o amser i ysgrifennu at eich cynghorwyr lleol ac ASau, neu lofnodi deisebau a helpu gydag ymgyrchoedd, gallwch newid meddwl a dylanwadu ar benderfyniadau pwysig.

Newidiwch y ffordd rydych chi’n teithio. Mae trafnidiaeth yn cyfrannu at tua chwarter o allyriadau nwyon t? gwydr. Gall cerdded neu beicio yn lle gyrru ar siwrnai fer a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd helpu. Defnyddiwch Zoom neu Teams i fynychu cyfarfodydd o bell pan allwch chi. Mae cerbydau trydan glanach yn dod yn fwy cyffredin ar ein ffyrdd hefyd.

Pweru eich cartref. Newidiwch i ddarparwr ynni adnewyddadwy neu ddi-garbon os gallwch chi. Defnyddio nwy a thrydan yn fwy effeithlon a diffodd dyfeisiau nad ydynt yn cael eu defnyddio, yn enwedig gyda’r nos. Bydd hyn yn arbed arian i chi yn ogystal ag arbed y blaned.

Siopa’n lleol ac yn gynaliadwy. Lleihewch ôl troed carbon eich bwyd drwy leihau ei filltiroedd bwyd – y pellter y mae’n ei gymryd i gyrraedd eich plât. Gwnewch newidiadau bach i’ch diet, fel eich bod yn bwyta llai o gynnyrch carbon-ddwys a lleihau eich gwastraff bwyd.

Plannu coed. Mae coed yn helpu i amsugno allyriadau carbon, yn lleihau llygredd ac yn rhoi cysgod, gan oeri’r ardaloedd lle cânt eu plannu. Mae Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi sefydlu cynllun #FyNghoedenEinCoedwig fel y gall pob cartref gael coeden am ddim i’w defnyddio yn eu gardd eu hunain neu gael un wedi’i phlannu yn rhywle arall ar eu rhan. Mae yna hefyd nifer o raglenni ariannu ar gael ar gyfer plannu mwy o goed mewn ysgolion, ardaloedd cymunedol a mannau gwyrdd eraill – cysylltwch â fy swyddfa ar nia.griffith.mp@parliament.uk am ragor o wybodaeth os oes gennych unrhyw le mewn golwg yn lleol.

Os gweithiwn ni i gyd gyda’n gilydd yna mae’r nod o ddelio â newid hinsawdd yn gyraeddadwy.

Mae gan bob un ohonom rôl, dim ots pa mor fawr neu fach, i warchod ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.