Home > Uncategorized > Diwrnod Gweithgynhyrchu Cenedlaethol

Mae heddiw’n Ddiwrnod Gweithgynhyrchu Cenedlaethol a bydd gweithgynhyrchwyr yn agor y drysau i’w ffatrïoedd a’u safleoedd ledled y DU er mwyn dangos y gyrfaoedd a’r swyddi posibl sydd ar gael yn y sector gweithgynhyrchu cynyddol amrywiol.

Bydd y diwrnod yn helpu i ddangos realiti gyrfaoedd gweithgynhyrchu modern wrth amlygu’r manteision y mae gweithgynhyrchu yn eu darparu i gymunedau lleol a’r wlad gyfan.

Mae cymaint o swyddi yn Llanelli yn dibynnu ar sector gweithgynhyrchu iach a dyna pam ei bod mor bwysig bod gan y DU Strategaeth Ddiwydiannol fanwl a chynhwysfawr, rhywbeth y mae’r Torïaid, hyd yn hyn, wedi gwrthod ei fabwysiadu. Mae angen llawer mwy o gefnogaeth arnom ar gyfer ein diwydiannau allweddol gan gynnwys dur a moduro.

Mae Llafur yn credu yng ngrym polisi diwydiannol a byddai’n gweithio gyda busnesau a gweithwyr i dyfu diwydiant, creu cyfoeth a swyddi, a mynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu ein cymdeithas.

www.nationalmanufacturingday.org