Home > Uncategorized > Datganiad ar ansicrwydd Tata Steel

Mae’r ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol gweithrediad Tata Steel ym Mhort Talbot yn peri pryder mawr. Mae’n effeithio ar lawer o deuluoedd nid yn unig yn yr ardal honno o Dde Cymru ond hefyd y gweithwyr sy’n gweithio yn eu ffatri yn Nhrostre yn fy etholaeth i hefyd.

Mae Gweinidogion Ceidwadol Llywodraeth y DU wedi bod yn llusgo’u traed ers misoedd ynghylch a ddylid cefnogi ein gweithwyr dur ai peidio. Mae’r oedi, sydd bellach wedi’i greu gan y gystadleuaeth arweinyddiaeth barhaus gan y Torïaid, ond yn achosi dryswch ychwanegol o ran ddyfodol un o ddiwydiannau strategol allweddol y DU.

Ynghyd ag ASau Llafur eraill, rwyf wedi bod yn dadlau dros weithredu prydlon a phendant i gefnogi’r broses o bontio’r cwmni i ddyfodol carbon isel ac i ddiogelu’r swyddi a’r bywoliaethau niferus sy’n dibynnu ar ddiwydiant dur bywiog a llwyddiannus.

Mae gwir angen i Weinidogion Torïaidd roi’r gorau i gladdu eu pennau yn y tywod ar hyn a darparu’r cymorth angenrheidiol cyn gynted â phosibl.